Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd | Inquiry into Fuel Poverty

FP 05

Ymateb gan : Tîm Prosiect Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS, Prifysgol Caerdydd

Evidence from : FLEXIS Social Science Project Team, Cardiff University

 

Mae ein hymateb i’r ymgynghoriad yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o brosiect FLEXIS (WEFO Ionawr 2016 – Rhagfyr 2020) a phrosiect Dyfodol Ynni Gwell (RHAGLEN BYW’N DDOETH – RHAGLEN TLODI TANWYDD A DYFODOL TEG Y DU, Mawrth 2018 – Mehefin 2019). Roedd ein hymchwil yn cynnwys cyfweliadau hydredol ansoddol blynyddol gyda 24 o gyfranogwyr ar draws 18 o gartrefi dros gyfnod o dair blynedd. Roedd y sampl yn cynnwys pobl rhwng eu 20au cynnar a’u 70au hwyr, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd byw ac yn cynnwys perchnogion-ddeiliaid, rhentwyr preifat a chymdeithasol. Roedd y cyfranogwyr yn byw yng Nghaerau, cyn-gymuned lofaol yn nyffryn Llynfi, lle mae cynlluniau ar hyn o bryd i ddatblygu cynllun gwresogi ardal gan ddefnyddio dŵr o hen weithfeydd mwyngloddio. Recriwtiwyd cyfranogwyr i'r prosiect i drafod materion yn ymwneud ag ynni yng nghyd-destun y datblygiad arfaethedig hwn ac nid yn seiliedig yn bennaf ar eu profiad o dlodi tanwydd. Fodd bynnag, gellid disgrifio 19 o'n cyfranogwyr fel rhai sy'n byw mewn cartrefi bregus yn unol â diffiniadau o fregusrwydd a amlinellir yn Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru 2010 (WGFPS o hyn ymlaen) (gan gynnwys; byw gydag anabledd, bod mewn cartref sy'n cynnwys plant ifanc, neu fod yn berson oedrannus). Mewn blynyddoedd diweddar, mae ymchwil wedi nodi bod cyflwr bregusrwydd ynni yn bryder allweddol ynddo'i hun (Bouzarovski et al 2014), fel y gwnaeth yr WGFPS hefyd, lle mae'r risg o fynd i dlodi tanwydd yn cael ei nodi fel problem ganolog (t. 2) . Caiff bregusrwydd ynni ei gymryd i ystyried cyflwr lle mae cartref yn profi tueddiad i symud i dlodi tanwydd. Mae’r cyflwr hwn yn ddibynnol ar amrywiaeth o ddylanwadau, gan gynnwys er enghraifft ansawdd materol tai, perthnasau cymdeithasol (e.e. rhwng tenantiaid a landlordiaid) ac iechyd cyffredinol (Middlemiss a Gillard 2015). Felly mae wedi’i ddadlau bod deall bregusrwydd ynni yn allweddol er mwyn deall pam fod rhai cartrefi yn dioddef tlodi tanwydd. At hynny, mae cyflwr bregusrwydd ynni yn ei hun yn gallu effeithio’n negyddol ar iechyd a phethau eraill, gyda llawer o’r effeithiau hyn yn codi o’r ffordd y caiff bregusrwydd ynni ei brofi gan aelodau cartref (Hargreaves a Longhurst 2018).

Am y rhesymau hyn, fel rhan o brosiect Gwell Dyfodol o ran Ynni, rydym ni wedi cynnal dadansoddiad helaeth o'n data er mwyn helpu i ddeall sut mae pobl yn profi tlodi tanwydd a bregusrwydd ynni, sydd wedi llywio ein gwaith gyda'r Energy Systems Catapult. Mae ein gwaith hefyd wedi’i gynnwys ym Menter Byw’n Ddoeth Llywodraeth Cymru: Adolygiad Blynyddol o Gynnydd a Gwersi a Ddysgwyd 2018-19.

Amodau sy’n creu bregusrwydd ynni

Ychydig o gyfranogwyr yn ein hastudiaeth sy'n ystyried eu hunain yn fregus o ran ynni, er bod llawer ar incwm isel ac yn pryderu am filiau tanwydd, ac er eu bod yn aelodau o gartrefi a fyddai'n cael eu dosbarthu felly yn ôl diffiniadau swyddogol o fregusrwydd yn gyffredinol. Gall hyn olygu fod dibynnu ar hunan-gyfeirio er mwyn cael mynediad at gymorth gyda phroblemau ynni fod yn drafferthus. Serch hynny, mae ein hymchwil yn nodi sawl nodwedd o ymwneud cartrefi ag ynni sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r aelwydydd hynny yn profi heriau sylweddol wrth geisio gwasanaethau ynni.

·         Arian a chyllidebu– roedd pob un o’n cyfranogwyr wedi profi cynnydd mewn biliau, ond arweiniodd hyn at lefelau gwahanol o bryder gan ddibynnu ar adnoddau ariannol a’r gallu i ‘roi rhywbeth heibio’. Roedd cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu gweld fel rhywbeth gweddol gyfyng ac anniogel, gyda phobl yn dioddef o ddiffyg adnoddau o ran teithio fel rhan o’u gwaith. Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr yn gyndyn o symud o’r ardal o ystyried y pwysigrwydd a roddwyd ar berthnasau lleol (gweler isod). Roedd mesuryddion rhagdalu yn cael eu hystyried i fod yn ddangosydd o dlodi tanwydd yn y gymuned ehangach. Roedd rhai yn eu gweld fel adnodd cyllidebu defnyddiol, ac i eraill roeddent yn ffordd ddrud a oedd yn llyncu amser, ac o bosibl yn creu gorbryder, o reoli defnydd ynni bob dydd. Ystyriwyd mai tlodi ehangach – ac nid y diffiniad cul o dlodi ynni yn unig – oedd y cyfraniad pwysicaf efallai at fregusrwydd. Ystyriwyd bod newidiadau i daliadau budd-dal (megis symud i Gredyd Cynhwysol ac oedi i oedran pensiwn y wladwriaeth) yn gwaethygu amgylchiadau ariannol anodd. Felly mae ein gwaith ymchwil yn nodi y dylai unrhyw ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ystyried effaith polisïau lles cysylltiedig.

 

·         Cysylltiadau cymdeithasol a chymunedol – a hwythau’n byw mewn cyn-gymuned lofaol, disgrifiodd cyfranogwyr statws newidiol yr ardal o gynhyrchu tanwydd lle’r oedd yn ymddangos bod digonedd ohono (yn arbennig o ran y glo am ddim yr oedd gan deuluoedd y glowyr yr hawl iddo ar un adeg) i berthynas fwy pell a drud ag ynni. Mae gan hyn arwyddocâd ar gyfer dealltwriaeth a phrofiadau rhwng cenedlaethau o dlodi tanwydd fel mater cyfredol, yn hytrach na dealltwriaeth o dlodi yn ehangach fel un mwy hirsefydlog. Disgrifiodd cyfranogwyr ymdeimlad cryf o gymuned, gyda phobl yn barod i rannu adnoddau â’i gilydd (gan gynnwys bwyd, arian ac ynni) ac ar y cyfan roeddent yn gyndyn o symud o’r ardal. Roedd y gefnogaeth anffurfiol hon yn cael ei gweld fel rhywbeth pwysig o ran helpu pobl i osgoi mynd i ddyled. Roedd adnoddau cymunedol lleol hefyd yn cael eu hystyried i fod yn ffynonellau pwysig o gefnogaeth, pethau fel banciau bwyd a chynlluniau tebyg, er roedd pryder pam eu bod yn gorfod bodoli yn y lle cyntaf. Mae'r mewnwelediadau hyn yn dangos bod nodweddion penodol lle yn bwysig wrth ystyried profiad a gwydnwch tlodi tanwydd, sy'n awgrymu bod angen i fentrau sy’n anelu at fynd i'r afael â thlodi tanwydd roi sylw i amgylchiadau lleol.

 

·         Tai – roedd statws tenantiaeth ac incwm gwario yn cael effaith sylweddol ar allu pobl i wneud newidiadau i'w heiddo i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau tanwydd. Er y byddai pobl wedi hoffi buddsoddi mwy yn eu heiddo, nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn ymarferol yn gyffredinol, gyda buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy yn arbennig yn cael ei ystyried y tu hwnt i gyrraedd oherwydd bod angen gwariant ariannol uchel. Efallai y bydd angen gwneud ymdrechion eraill i wella effeithlonrwydd ynni, megis gosod gwydr dwbl, yn araf; fel y disgrifiodd un cyfranogwr, prynu ‘ffenestr ar y tro’.  Disgrifiodd y rhai mewn llety rhent preifat eu bod yn teimlo'n arbennig o ddi-rym gan eu bod yn ddibynnol ar eu landlord i weithredu i fynd i'r afael â phroblemau gyda'r eiddo. Er bod y rhai mwyaf bregus yn gallu cael mynediad at rywfaint o gefnogaeth ar gyfer gwneud newidiadau i'w heiddo ac yn gwerthfawrogi hyn (e.e. gosod boeler newydd am ddim trwy'r cynllun NEST), roedd eraill yn y gymuned a oedd ar incwm isel ond ddim yn bodloni’r meini prawf cymhwyster ar gyfer cynlluniau o’r fath weithiau yn mynegi dicter am hyn. Mae hyn yn codi cwestiynau o ran sut y gall y cynlluniau hyn effeithio ar berthnasau lleol.

 

·         Arferion arbed ynni – mae diffyg consensws ar beth sy’n cyfrif fel ffordd dda o ddefnyddio ynni, sy’n gwaethygu oherwydd amheuaeth pan fydd cwmnïau ynni yn hyrwyddo rhai arferion, cwmnïau sy’n cael eu hystyried i fod yn blaenoriaethu elw mawr dros fudd y defnyddiwr (e.e. gadael gwres ymlaen yn gyson ar dymheredd penodol o’i gymharu â’i roi ymlaen a’i ddiffodd). Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y dylent osgoi gwastraffu ynni ac arian a rhoi mesurau ar waith i wneud hynny, felly yn aml nid oedd dyfeisiau wedi’u dylunio i wneud defnydd o ynni yn fwy gweladwy – fel mesuryddion deallus – yn cael eu hystyried yn arbennig o ddefnyddiol ac yn gyffredinol nid oeddent yn cael eu hystyried fel pethau a allai wella tlodi tanwydd.

 

·         Technoleg glyfar –er bod rhai yn frwd dros y cysylltiad gwell â defnydd ynni y gall dyfeisiau o'r fath ei gynnig, roedd amheuaeth ymhlith ein cyfranogwyr bregus y gall dyfais (sy’n defnyddio ynni) ddweud wrth bobl unrhyw beth nad ydyn nhw'n ei wybod eisoes, o gofio bod eisoes gofyn iddynt fod yn ddefnyddwyr ynni gofalus i ymdopi ar incwm isel. Y tu hwnt i faterion pwysig fel mynediad, mae ein hymchwil yn nodi lefelau amrywiol o hyder a chymhwysedd mewn perthynas â thechnoleg glyfar, sy’n gallu creu rhaniadau cymdeithasol. Mae ein gwaith yn awgrymu ei bod yn bwysig adnabod rhesymau dilys pam fod defnyddwyr bregus yn gwrthsefyll technoleg glyfar, gan gynnwys mesuryddion deallus, yn hytrach na dehongli hyn fel gwrthwynebu newid yn unig. Mae’r ddealltwriaeth gynnil hon yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl mewn trawsnewidiad ynni clyfar. (Gweler Menter Byw yn Glyfar Llywodraeth Cymru: Adolygiad Blynyddol o Gynnydd a Gwersi a Ddysgwyd 2018-19 i weld rhagor o fanylion am ein cyfraniad at hwn).

 

·         Iechyd –wrth gynnal ymchwil hydredol, mae ein gwaith yn dangos sut mae bregusrwydd ynni yn gyflwr deinamig y gall pobl symud i mewn ac allan ohono dros amser mewn perthynas â newidiadau yn eu hamgylchiadau. I lawer o'n cyfranogwyr, roedd profi cyfnod o afiechyd yn aml yn cyd-daro â gostyngiad mewn incwm a threulio mwy o amser gartref, yn gysylltiedig â chostau ynni uwch (yn ogystal â mwy o alw am ynni o bosibl oherwydd cyflyrau iechyd) ac felly roedd yn ffynhonnell bosibl o bryder a bregusrwydd. I’r rheiny â chyflyrau hirdymor, gall ymddangos nad oes llawer o obaith y bydd eu sefyllfa yn gwella. Yn ogystal ag iechyd corfforol, roedd cyfranogwyr yn amlinellu cyflyrau iechyd meddwl a oedd yn golygu bod angen defnydd uwch o ynni i’w rheoli. Felly mae angen i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ystyried yr amodau cartref ehangach a allai waethygu hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar anghenion iechyd a gofal aelodau'r cartref.

 

·         Plant a gofal –mae'r rhagdybiaeth bod gofalu am blant ifanc yn golygu darparu cynhesrwydd digonol wedi'i wreiddio'n gadarn, a gallai arwain at oedolion yn cyfyngu ar eu defnydd ynni eu hunain er mwyn blaenoriaethu plant. Y tu hwnt i wresogi, mae costau trydan uchel hefyd yn gysylltiedig â magu plant. Yn ogystal, mae gwresogi yn gysylltiedig â gofalu am genedlaethau hŷn a’r rheiny sydd â iechyd gwael. Gan fod gwresogi yn aml yn cael ei ystyried fel rhywbeth hanfodol pan fod pobl fregus yn bresennol, gall hyn arwain at gartrefi yn cynyddu defnydd o ynni, sy’n cynyddu pryderon am dalu’r biliau am hyn. Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i gartrefi lle mae pobl fregus yn breswylwyr parhaol ond hefyd lle gallant fod yn ymweld yn rheolaidd e.e. neiniau a theidiau sy’n cael wyrion i ymweld â nhw/maent yn gofalu amdanynt yn rheolaidd. Mae hyn yn awgrymu y dylai mentrau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ystyried perthnasau y tu hwnt i’ rheiny sy’n byw mewn cartrefi a disgwyliadau o ran beth mae gofalu yn ei gynnwys.

 

·         Defnydd hanfodol o ynni – mae disgwyliadau wedi esblygu felly mae mynediad at ynni nawr yn cael ei ystyried yn hawl sylfaenol ac yn rhywbeth hanfodol er mwyn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas gyfoes, yn arbennig drwy TGCh. Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg cysylltiad rhyngrwyd yn arwain at anawsterau wrth gyflawni tasgau bob dydd ac y gallai arwain atynt yn cael eu cosbi (e.e. gorfod talu mwy am ddatganiadau papur os na allant fancio ar-lein). Roedd hi’n ymddangos mai’r prif broblem gyda mynediad at ynni oedd cost, o ystyried bod pobl ar y cyfan yn profi cyflenwadau nwy a thrydan cysylltiedig â’r grid fel rhai dibynadwy a chyfleus.

 

Niwed ychwanegol a ddaw yn sgil profi bregusrwydd ynni

 

Mae Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru 2010 yn cynnwys nodau i gynnwys cymunedau a phobl y mae tlodi tanwydd yn effeithio arnynt; a darparu cefnogaeth a chyngor cynhwysol sy'n ystyried anghenion pobl, gan dynnu ar eu dealltwriaeth eu hunain o beth yw'r anghenion hyn.. Gall profi bregusrwydd ynni fod â nodweddion nodedig sydd yn eu hunain yn niweidiol.

 

Nid yw pobl yn dueddol o nodi eu bod yn agored i dlodi tanwydd o gwbl, cyn belled â’u bod yn teimlo bod eu bywydau wedi’u nodweddu gan nodweddion penodol. Ymhlith y rhain mae gwydnwch, sy'n cynnwys gwydnwch ar lefel gymunedol (o ran perthnasoedd cymdeithasol, gan gynnwys y gallu i rannu adnoddau a chynorthwyo eraill) a gwydnwch ariannol ar lefel cartref, sy'n cael ei nodi gan y gallu i greu byffrau yn erbyn ansicrwydd. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yma yw gallu tynnu ar gynilion er mwyn talu costau annisgwyl y gallai pobl ar incwm sydd fel arall wedi'i gyfyngu fod yn agored iddynt, ac i ymdopi â gwahaniaethau mwy rhagweladwy yn y galw am ynni rhwng tymhorau trwy roi arian o'r neilltu mewn misoedd cynhesach.

 

Un broblem nodedig sy’n gysylltiedig â phrofi ychydig neu’r holl gyflyrau uchod sy’n gallu creu bregusrwydd ynni yw profi ansicrwydd. Yn aml mae ymatebwyr yn nodi eu bod yn gallu ‘cyllidebu’, ond mewn llawer o achosion mae’n golygu cyllidebu am gyfnodau byrion, fel rheoli llif arian o un wythnos i’r llall er enghraifft yn hytrach na rhoi rhywbeth heibio i ymdopi â diffygion ariannol sy’n gysylltiedig ag amodau ehangach. Gall cynllunio ar gyfer y tymor hirach fod yn anodd mewn amgylchiadau o’r fath, gan gynyddu pryderon am ymdopi yn hwyrach yn y flwyddyn neu’n hwyrach mewn bywyd. Mae'r syniad bod cyllidebu yn amlygiad o weithrediad ac felly o reidrwydd yn arwydd o wydnwch yn tynnu sylw at agwedd ganolog arall ar brofiad pobl o fregusrwydd ynni: dewis addasol. Mae'r gallu i ymarfer gweithrediad (agency) am gyrchu gwasanaethau ynni yn gyfraniad pwysig at les (Middlemiss a Gillard 2015). Mae gallu adnewyddu eiddo neu wneud dewisiadau eraill sy'n dylanwadu ar y defnydd o ynni a lleihau biliau yn cael ei ystyried yn ystyrlon iawn, er bod dewisiadau o'r fath yn aml yn cael eu cyfyngu gan e.e. perthnasoedd cymdeithasol rhwng landlordiaid a thenantiaid, y costau sy'n gysylltiedig â newid cyflenwyr ynni, neu'r costau ychwanegol sy'n dod gyda chyflyrau iechyd. Felly, gellir gwerthuso atebion sy’n dangos yn glir gynnydd mewn gwydnwch (ac ymdeimlad o weithrediad ystyrlon yn y termau a drafodir yma) yn gadarnhaol. Ar yr un pryd, mae ymatebwyr hefyd yn nodi eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw weithrediad tra eu bod hefyd yn nodweddu eu hunain fel pobl sy’n 'brwydro ymlaen', neu’n addasu eu dewisiadau ar gyfer gwasanaethau ynni fel eu bod yn teimlo eu bod nhw'n gallu 'gwneud y tro' â'r hyn maen nhw'n gallu ei gael, hyd yn oed os nad yw hyn yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Er enghraifft, roedd popty un cwpl wedi torri ac nid oeddent yn gallu fforddio prynu un arall. Wedi hynny, roeddent wedi bod yn byw heb bopty a oedd yn gweithio’n iawn am 6 mis erbyn adeg y cyfweliad, ond bu iddynt ddisgrifio hyn yn nhermau gorfod newid eu harferion bwyta yn hytrach nag yn nhermau diffyg.

 

Mae gwaith ymchwil sy’n bodoli eisoes wedi nodi bod ffocws ar effeithlonrwydd ynni, er ei fod yn ddealladwy, yn anwybyddu profiad byw tlodi tanwydd (Middlemiss a Gillard, 2015). Yn lle hynny, mae wedi’i ddadlau fod ymchwil ansoddol yn hanfodol i ddeall sut y caiff newid ei brofi ym mywydau pob dydd y rheiny sy’n dlawd o ran tanwydd (Grey et al, 2017). Yn benodol, mae dull hydredol (lle mae'r un cyfranogwyr yn cael eu cyfweld sawl gwaith dros gyfnod amser estynedig) yn caniatáu ar gyfer archwilio bregusrwydd ynni yn fanylach fel cyflwr deinamig y mae pobl yn symud i mewn ac allan ohono dros amser. Mae ein gwaith yn mynd yn bell o ran mynd i'r afael â'r materion hyn ond gallai ymchwil hydredol ansoddol fwy helaeth yn y maes hwn fod yn gyfraniad gwerthfawr at ddealltwriaeth o dlodi tanwydd (Middlemiss a Gillard, 2013).

 

Cyfeiriadau

Bouzarovski, S., Petrova, S., & Tirado-Herrero, S. (2014). From Fuel Poverty to Energy Vulnerability: The Importance of Services, Needs and Practices. (SSRN Papur Ysgolheigaidd Rhif ID 2743143).

Grey, C.N.B, Schmeider-Gaite, T. Jiang, Nascimento, C. a Poortinga, W. (2017) Cold homes, fuel poverty and energy efficiency improvements: A longitudinal focus group approach. Indoor and Built Environment. 26(7): 902-913 Hargreaves, T., & Longhurst, N. (2018). The lived experience of energy vulnerability among social housing tenants: Emotional and subjective engagements (Papur Gweithio CCP 18-7). Norwich: Prifysgol East Anglia.

Middlemiss, L. a Gillard, R. (2013) “How can you live like that?”: energy vulnerability and the dynamic experience of fuel poverty. Adroddiad Ymchwil. Prifysgol Leeds, Sefydliad Ymchwil ar Gynaliadwyedd

Middlemiss, L. a Gillard, R. (2015) Fuel poverty from the bottom-up: Characterising household energy vulnerability through the lived experience of the fuel poor. Energy Research and Social Science. 6: 146-154